Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Sian James - Mwynen Merch | Текст песни

MWYNEN MERCH
(Traditional)

Y feinwen fwyn lawen fain lân,
Ddiogan a diddan ei dydd,
Er rhyfyg rwy'n cynnig rhoi cân
Dda anian i'r groenlan ei grudd;
Pe medrwn da glymwn dy glod,
Uchelnod waed hynod wyt ti,
A mawredd d'anrhydedd dan rhod,
Lliw'r manod ddymunol,
Hyfredol, da freiniol dy fri,
I'th garu a'th refeddu rwyf fi.

Wrth weled, o laned dy lun,
Hardd wiwlan, win forwyn, wen ferch,
Cynhyrfodd a hedodd ei hun,
Fel deryn 'fwy sydyn, fy serch;
Dy rodiad, pêr syniad, pur sydd
A'th gynnydd i'n gwledydd yn glod:
A minne sy'n diodde bob dydd;
Dyn gwastad dan gystudd
'Ran benyw rwy' beunydd yn bod,
Yn tramwy'n ofnadwy fy nod.

Wel, dianged, eheded am hyn,
Y byd a'i awch freulun, wych fri,
A'i sorod, lliw manod, lle y myn -
Dy gorffyn glân mwynlun i mi;
Ymglymwn, darparwn yn bur
Trwy gysur mwyn brysur mewn bri,
Mewn cariad didoriad fel dur,
A difyr â'i d'ofyn,
Mae'th gorffyn mwyn, dichlyn, main di
Mwy hvryd na 'mywyd i mi.

Sian James еще тексты


Видео
Нет видео
-
Оценка текста
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 2